Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2020
Amser:
09.30 -
10.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6474
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B
2.1 pNeg(5)36 - Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
2.2 pNeg(5)37 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
2.3 pNeg(5)38 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
2.4 pNeg(5)39 - Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.
3 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(5)645 - Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(5)646 - Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau a drafodwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn destun gwaith craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3
4.1 SL(5)650 - Rheoliadau'r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
5 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
5.1 SL(5)643 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5.2 SL(5)647 - Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5.3 SL(5)648 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5.4 SL(5)651 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5.5 SL(5)652 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5.6 SL(5)649 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5.7 SL(5)653 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
6 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
6.1 SL(5)636 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
6.17SL(5)638 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
6.3 SL(5)641 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i’w drafod ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
7.1 WS-30C(5)199 - Rheoliadau Cemegion (Iechyd a Diogelwch) ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Cyfyngedig) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7.2 WS-30C(5)201 - Rheoliadau Cynhyrchion Tybaco a Chynhyrchion Mewnanadlu Nicotin (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau cysylltiedig, yn benodol bod anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a oes angen cydsyniad.
7.3 WS-30C(5)202 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol a Rhywogaethau Estron mewn Dyframaeth, Anifeiliaid, a Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Swyddogaethau Deddfwriaethol a Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7.4 WS-30C(5)203 - Rheoliadau Meddyginiaethau a Gweddillion Milfeddygol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Llythyr gan y Prif Weinidog: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
8.2 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip a chytunodd i gyfeirio at y llythyr a’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn ei lythyr at y Llywydd ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ran SICMs (fel y cytunwyd yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd 2020).
8.3 Llythyr gan y Prif Weinidog: Craffu ar reoliadau sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog a bod y Protocol diwygiedig mewn perthynas â chraffu ar reoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd bellach mewn grym.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
10 Bil Marchnad Fewnol y DU: Y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Marchnad Fewnol y DU yn Nhŷ’r Arglwyddi.
11 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Diweddariad
Nododd y Pwyllgor y diweddariad mewn perthynas â chraffu ar y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Marchnad Fewnol y DU, a chytunodd i drafod drafft terfynol cyn ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.